Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (147) |
Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau pan ddaw Pwyllgor o'r Cynulliad cyfan i ben. Bydd y Pwyllgor o'r Cynulliad cyfan yn cychwyn am 13.30
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 17.45
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 5, 7 i 10, 12 i 13 ac 15. Tynnwyd cwestiynau 6 ac 14 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 11. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 18.34
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
Dechreuodd yr eitem am 18.49
4 Rheoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth) (Cymru) 2013
Dechreuodd yr eitem am 19.47
NDM5293 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol - gohiriwyd
6 Dadl: Y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2013-14
Dechreuodd yr eitem am 19.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5278 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 25 Mehefin 2013.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
12 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 20.28
Daeth y cyfarfod i ben am 20:29
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 17 Gorffennaf 2013